-Scroll down for Welsh-
What we want!
1 – We want an Independent, Socialist Republic of Wales – by and for the people of Wales.
2 – We want local community action, the creation of community centers, and the revival of our towns, villages, and cities.
3 – We want workers to have a democratic say in both their workplace, and in their society, to ensure their rights.
4 – We want free, accessible, and honest education for all.
5 – We want an end to children growing up in poverty.
6 – We want deprived areas in Wales to be re-invigorated, and not discarded and treated as commuter belts.
7 – We want an end to homelessness.
8 – We want a Wales that stands in solidarity with all oppressed and exploited peoples around the world.
9 – We want to abolish police, prisons and the white supremacist structures they uphold
10 – We want the working people of all creeds, colours, and nations to unite, for the betterment of all.
What we believe
1 – We want an Independent, Socialist Republic of Wales – by and for the people of Wales
Almost a quarter of Welsh people live in poverty.
Wales is the poorest nation of the UK, and the one that has experienced the bitter reality of Westminster’s class warfare the hardest over the centuries.
From Imperial annexation, to the draining of our resources, the ‘most entrenched class system’ of any nation – that of England, continues to dominate in Wales.
From the biases of the British Media – already owned by just 5 Billionaires, to the limits of the UK electoral system (one election every four years, maybe two or three if you live in Wales – with Welsh votes represented by just 50 MPs to England’s over 500), to the continued exodus of our young and skilled – all the while Wales is advertised as a playground for retirees, Independence is needed to preserve Wales as a Nation, and not let it become a vassal state of English Capital.
However, we do not want Independence for the sake of it – and categorically do not support Independence for its own sake.
As Marxists, our analysis concludes that to advocate Welsh Independence based on Socialism – as did James Conolly in Ireland, we would strike a hard blow not only at Capital in the UK, but at the Imperialist system the UK gleefully partakes in, weakening Global Imperialism.
But why Socialism?
Why is it that the Welsh Coalfield at one point produced up to 40% of British Coal Exports – totaling billions of pounds worth of revenue, yet our communities remained poor and underfunded?
Why is it that the South Wales Valleys are demonized as a place filled with ‘benefit scroungers’, when Billionaires are able to avoid multi-millions in their taxes?
When we advocate Socialism, we advocate a radical change to the economy of Wales, and the political culture of Wales, with the economy re-orientated to serve the people, not line the pockets of the Ultra-rich.
If we were to get Independence without Socialism, it would mean the classes that lower wages, raise rents, remove benefits, defund our communities, and cut services would be Welsh, and would rule from Cardiff instead of Westminster.
When we advocate Socialism, we advocate the truest sense of democracy – the right of workers to have their just say in their life, their society, their economy, and their country.
In contrast to other Socialist groups, we believe that Welsh Independence would not weaken working-class solidarity in the UK (as the exit of the EU did not weaken European working-class solidarity), and that due to a history of Internal Colonialism within Wales, our class struggle is historically different to that in England, and that in Scotland.
In order to fight for Socialism across the UK, we first need to get our own house in order – and return to the fight alongside Scotland and England as equal partners, not an underdeveloped nation dragged along by our English and Scottish comrades.
The unity of the British state and the unity of the working class are not the same thing. Unity between workers in Scotland, England, Ireland, and Wales, does not rest on the maintenance of the British state or the capitalist interests it represents. The necessity for Welsh workers to unite with their brothers and sisters in England or Scotland or Ireland will not evaporate in the face of a Welsh Socialist Republic. Workers from different countries can and do organise together across borders, in the same trade unions and in alliance against the same unscrupulous multinationals.
On the other hand, allying with the Tories, Lib Dems and Labour to preserve the bosses’ state will damage workers’ unity. Part of maintaining workers’ unity is for English, Scottish and Irish workers to support a potential Welsh vote for Independence. However packaged, the no camp inevitably rallies forces to the Union Jack and the reactionary and backward ideas it stands for.
2 – We want local community action, the creation of community centers, and the revival of our towns, villages, and cities.
For too long our communities have been discarded and left to the dogs. The Valleys are some of the Poorest regions in the UK, even in Europe. Wales as a whole has been left as the playground of the rich, of the second-home owners, all the while our local communities are left to rot.
Community centres and services close, our historic buildings are turned into luxury flats that the average person cannot afford – or demolished to sell the land to developers, multi-national chains barge into our towns and villages – pricing out locals, and our land is left scarred by industrial waste.
We believe in the power and the agency of ordinary, working-class people to affect real material changes in their own lives. We believe the people have far more knowledge and ability to create positive change than an out of touch political elite that has never shown an interest in ordinary people.
Political action begins at home, directly. Successive governments (both in Wales and in London) haven’t helped, so we’ll take matters into our own hands. We believe that local, direct action to help improve our communities is what’s needed.
‘Community’ was killed after Thatcher, so through community cleanups, soup kitchens, educational events in the community, and workshops, we want to dig it back up and dust it back off.
3 – We want workers to have a democratic say in both their workplace, and in their society, to ensure their rights.
Under the current system in Wales, workers are subject to temporary contracts, poor wages, terrible hours, limited right to strike, and an increasingly undemocratic and demanding work-culture. While the wages of the top bosses have increased by tens of thousands, if not hundreds of thousands in Wales, the average wage for people in Wales has remained the same for over a decade. The profits you make are funnelled off to the ultra-rich, while you remain on the same wage you had in 2005.
We believe that our mainstream political parties have no interest in solving these problems, as they benefit from this exploitation. We believe that the only solution is grassroots movements of working-class people.
We want workplace democracy under public ownership, where everyone has a say in how the business/organization is run, and where the profits go. With so much of our day/week/year spent at work, we’ll only have democracy when we achieve a democracy of working-people in Wales.
We also want true democracy, outside of the corrupt, lazy Liberal Parliamentary system. We want real democracy, from the National level down to individual neighbourhood councils. People in Wales know what’s best for them, and are worth more than one or two votes every four years.
4 – We want free, accessible, and honest education for all.
Education is the key to success. We don’t just mean University, but Apprenticeships, and Adult Learning. Access to education consistently remains one of the biggest dividers of the quality of life of our children, and the lives they will grow into. The education sector in the UK – including Wales, is designed by, and ran for the benefit of, the ruling classes. How many of our political elite have been to the same few schools and the same two universities? We believe the education system should serve the people, not the establishment.
With the current Education Sector in Wales run for profit, the options for people in Wales are to enter a life of permanent student-debt – rising every year with interest with no guarantee of a job afterwards, apply for an internship (often unpaid, acting as a lackey for a multi-million pound company with no guarantee of a job), or apply for one of Wales’ fast-dwindling Apprenticeships.
We do not believe that it should be this way. We want the best opportunities for all people of Wales, especially our children, and do not believe that our children should suffer simply because they were not privileged enough to be born to a life of excess wealth.
We want free education for all in Wales – from the cradle, to the grave. Free tuition, Paid internships, accessible courses.
5 – We want an end to children growing up in poverty.
Wales has the highest level of child poverty in the UK. This is a failure of the Welsh Government, and of the Westminster Government. Both have the power to end this in a day, but chose not to due to ‘costs’. We believe that the wellbeing of our children is of utmost importance, and that no child should suffer for economic circumstances beyond their control.
We know that things do not need to be this way. There is no reason that any child should go hungry, unhoused, or scared for their future simply because they were born to the ‘wrong’ background. No child is invalid, and we believe that the protection of our children is fundamental to the betterment of Wales, and to the world as a whole.
We demand free Government-provided childcare, as evident in so many countries around the world, as just the start of rectifying this. We demand free, extensive school meals, to provide for all children. We demand a refunding of youth centres and social clubs, decimated by a decade of austerity, to provide children with social groups, and places of refuge from troubled families. We demand an end to the introduction of an entrenched class system before children even learn the fundamentals of maths by abolishing the private school system, ending the division of children along class lines.
6 – We want deprived areas in Wales to be re-invigorated, and not discarded and treated as commuter belts.
For too long, our deprived communities in Wales have been treated as a cheap source of housing, and cheap land for property developers. Our villages, towns, and cities are suffering a drain of working-people – with jobs relocating to the big cities, leaving our communities without work and without workers.
We want the reinvigoration and restoration of our communities, for the people in these communities themselves. Our homes and streets are not there for people to get on the property ladder, and our regions aren’t there just for the commuters. We want real investment in these areas, and sustainable jobs in these communities – and to not be discarded as a commuter belt.
7 – We want an end to homelessness.
Homelessness is a cancer that can be fought. There are enough houses in Wales, and there is enough money. Too often in Wales, Landlords buy up cheap property to charge extortionate rents to those in desperate need.
We do not believe that people should be denied a safe place to live just because they cannot provide an adequate amount of money to be sucked dry from them. We do not believe anybody should fear losing their jobs and losing their home. We do not believe anybody should be driven to suicide over economic circumstances beyond their control simply because the housing market cares more about money than it does about human lives.
We believe that if the Welsh landlords will not give decent, and cheap housing to our communities, then the housing and the land should be made into cooperatives so that our communities can build and make decent housing for its people.
8 – We want a Wales that stands in solidarity with all oppressed and exploited peoples around the world.
When hundreds of men and women risked life and limb to fight against Franco’s Fascists in Spain, they did so out of a genuine belief in Socialist internationalism – and the solidarity of man.
We cannot, and will never forget this ethos. We want a Wales that stands in solidarity with the oppressed and exploited across the world in their fight against Capitalism, discrimination, and exploitation.
We cannot fight for all of this without starting at home.
Classism, Racism, Sexism, Transphobia, Religious persecution – all cancers that need to be destroyed for the Welsh Nation to prosper and succeed.
9 – We want to abolish police, prisons and the white supremacist structures they uphold
Taking the understanding – backed by scientific consensus – that the overwhelming majority of crime is motivated by poverty, and is not deterred in any capacity by police nor prisons, we see no reason for their being, and see the goals laid out before as a real solution to crime.
The police is not capable of undoing a crime, and indeed is seldom capable of solving one. Prisons do not rehabilitate convicts, and indeed many go on to reoffend.
What prisons and police are doing is disproportionately attacking and killing people of colour in this country, whilst increasingly making a profit off of it with an increasing rate of private prisons in the UK.
There isn’t true justice in Wales. Working-class people are most likely to receive harsher sentences in Wales for minor-crimes, while the richest in Wales get off with a slap on the wrist.
When you need to feed a young family, when your community is derelict and decaying, when there are no jobs for miles, and when employers are hiring for zero-hours contracts with little pay, when there are cuts to your benefits, to your social services, while rent is increasing and increasing, is it any wonder people turn to petty crime to get by? The economic ills and burdens that capitalism puts on us – especially onto communities of colour – needs to be solved if we want to tackle crime.
Destroying prisons demands destroying White supremacy, patriarchy, cis-normativity – it demands destroying all oppressive structures, and destroying the police that enforce them.
10 – We want the working people of all creeds, colours, and nations to unite, for the betterment of all.
Only through the working-class combining it’s might as equals, are we able to change the world for the better. The real battle isn’t between ‘Welsh people’ and ‘foreigners’, or between Labour and Tory, but the battle between the Upper Classes who have oppressed working-people in Wales for centuries, who built their wealth on our hunched-over backs, and us.
We can win a new world. This is possible, and this can be achieved in our lifetime.
WE NEED TO EDUCATE OURSELVES
WE NEED TO ORGANIZE OURSELVES
LET’S MAKE THE MASSES MOVE
FOR THE WELSH SOCIALIST REPUBLIC
-Welsh Below-
Rhaglen Deg Pwynt yr Rhwydwaith Tanddaear Cymraeg
1 – Rydyn ni eisiau gweriniaeth annibynnol, Sosialaidd Cymreig – gan a thros bobl Cymru.
Mae bron i chwarter o bobl Cymru yn byw mewn tlodi.
Cymru yw wlad dlotaf y DU, a’r un sydd wedi profi gwirionedd chwerw rhyfel dosbarth San Steffan dros y canrifoedd.
O gyfeddiannaeth imperialaidd, i ladrata ein hadnoddau, mae’r system dosbarth ‘mwyaf ymwreiddiedig o unrhyw genedl’ – system Lloegr – yn parhau i ddominyddu yng Nghymru.
O ragfarnau’r cyfryngau Prydeinig – sydd yn eiddo i ddim ond pump o filiwnyddion – i gyfyngiadau’r system etholiadol (sydd yn gweld un etholiad pob pedwar neu pum mlynedd, neu dau neu tri os ydych yn byw yng Nghymru – a gyda phleidleisiau Cymreig yn cael eu cynrychioli gan ddim ond pumdeg o ASau yn San Steffan, i gymharu â thros bum cant yn cynrychioli Lloegr), i ymadawiad parhaus ein pobl ifanc a medrus – tra bod Cymru’n cael ei hysbysebu fel maes chwarae i ymddeolwyr; mae angen annibyniaeth i arbed Cymru fel cenedl, ac er mwyn ei hatal rhag dod yn wladwriaeth fasal i gyfalaf Lloegr.
Ond nid ydym am weld annibyniaeth er ei fwyn ei hun – ac rydym yn gwrthwynebu hynny.
Fel Marcswyr, mae ein dadansoddiad o’r sefyllfa gyfoes yn arwain ni i eirioli annibyniaeth i Gymru ar sail Sosialaeth – fel y gwnaeth James Connolly yn Iwerddon. Byddem yn taro ergyd yn erbyn cyfalaf yn y DU, ynghyd â’r system imperialaidd fyd-eang y mae’r DU yn rhan sylfaenol ohoni.
Ond pam Sosialaeth?
Pam ydyw bod Maes Glo Cymru wedi cynhyrchu hyd at 40% o allforion glo Prydain, gwerth biliynau o bunnoedd – ond mae ein cymunedau yn parhau i fod yn dlawd ac yn cael eu tanariannu?
Pam ydyw fod Cymoedd De Cymru yn cael eu portreadu fel lle llawn o “dwyllwyr buddion”, tra bod bilonyddion yn gallu osgoi talu milynnau mewn trethu
Pan rydym yn eirioli Sosialaeth, rydym yn eirioli newid radicalaidd yn economi a diwylliant gwleidyddol Cymru, lle byddai’r economi yn cael ei thrawsnewid er budd y bobl, yn hytrach na budd pocedai’r cyfoethogion.
Pe byddem yn cael annibyniaeth heb Sosialaeth, byddai’n golygu y byddai’r un dosbarthiadau sydd yn gostwng cyflogau, yn codi rhenti, yn dileu budd-daliadau, yn tanariannu ein cymunedau, ac yn torri gwasanaethau, yn llywodraethu o Gaerdydd yn lle San Steffan.
Pan rydym yn eirioli Sosialaeth, rydym yn eirioli ddemocratiaeth yn ei gwyr ystyr – yr hawl i weithwyr cael llais yn eu bywydau, eu cymdeithas, eu heconomi, a’u wlad.
Yn wahanol i grwpiau Sosialaidd eraill, credwn na fyddai annibyniaeth i Gymru yn gwanhau undod dosbarth gweithiol y DU (megis na wnaeth gadael yr UE gwanhau undod dosbarth gweithiol Ewrop), a chredwn fod natur frwydr ein dosbarth yn wahanol yng Nghymru i sefyllfa hanesyddol dosbarth gweithiol Lloegr neu’r Alban, o ganlyniad i fanylion penodol Wladychiaeth Fewnol.
Er mwyn frwydro dros Sosialaeth ar draws y DU, mae angen i ni drefnu ein tŷ ni yn gyntaf – gan ddychwelyd i frwydro ynghyd â’r Alban a Lloegr fel partneriaid cyfartal, nid fel cenedl annatblygedig a chariwyd gan ein cymrodyr yn Lloegr a’r Alban.
Nid yw undod y wladwriaeth Brydeinig ac undod y dosbarth gweithiol yn gyfwerth. Nid yw unoliaeth gweithwyr yr Alban, Lloegr, Gogledd Iwerddon a Chymru yn dibynnu ar barhad y wladwriaeth Brydeinig a’r cyfalaf y mae’n ei cynhyrchiol. Ni fydd ennill gweriniaeth Sosialaidd Gymreig yn diddymu’r angen i weithwyr Cymru uno gyda’u brodyr a chwiorydd yn Lloegr, yr Alban ac Iwerddon. Mae gweithwyr o wledydd gwahanol yn gallu trefnu gyda’i gilydd ar draws ffiniau, mewn yr un undebau llafur yn erbyn yr un cwmnïau rhyngwladol diegwyddor.
Ond, ar y llaw arall, mi fydd ymrwymo a’r Torïaid, Democratiaid Rhyddfrydol neu Llafur er mwyn arbed gwladwriaeth y cyfalafwyr yn niweidio undod y gweithwyr. Er mwyn arbed yr undod hynny, mae rhaid gweld gweithwyr Lloegr, yr Alban ac Iwerddon yn cefnogi’r hawl i hunanbenderfyniaeth. Sut bynnag mae’r ymgyrch yn erbyn annibyniaeth yn portreadu ei hun, mi fydd o’n anochel i ddibynnu ar nerth gwrthddiwygiadol Jac yr Undeb.
2 – Rydyn ni eisiau gweld gweithredoedd cynmunedol, mwy o gannolfannau cynunedol, ac adfywiad ein trefi, ein pentrefi a’n dinasoedd.
Ers cyn cof, mae ein cymunedau wedi cael eu hesgeuluso a’u gadael i’r cŵn. Mae’r Cymoedd yn rhai o ranbarthau tlodaf y DU ac Ewrop, ac mae Cymru dros gyfan yn cael ei thrin fel maes chwarae i’r cyfoethogion, i berchnogion tai haf, tra bod ein cymunedau yn pydru.
Mae ein canolfannau cymunedol yn cau a’n adeiladau hanesyddol yn cael eu troi’n fflatiau moethus anfforddiadwy – neu’n cael eu dymchwel a’u gwerthi i gwmnïau rhyngwladol – gan wthio mas pobl lleol.
Rydyn ni’n credu mewn grym ac awtonomi bobl dosbarth gweithiol, sydd yn gallu sicrhau newid materol go iawn yn eu bywydau. Rydyn ni’n credu bod gan y bobl llawer mwy o allu i ennyn newidiadau positif nag sydd gan elît gwleidyddol hirlwrw – dosbarth sydd gyda dim diddordeb ym mywydau pobl arferol.
Mae gweithredu gwleidyddol yn dechrau yn y cartref. Nid yw llywodraethau olynol (yng Nghymru ac yn Llundain) wedi helpu, felly mae rhaid i ni gymryd materion i mewn i ddwylo ni ein hunan. Mae angen gweithredu yn uniongyrchol yn ein cymunedau lleol.
Fe laddwyd y cysyniad o ‘gymuned’ ar ôl Thatcher, ond trwy ddigwyddiadau i lanhau ein cymunedau, trwy geginau agored, digwyddiadau addysgol a gweithdai, rydym am ei hatgyfodi.
3 – Rydyn ni eisiau i weithwyr gael llais democrataidd yn eu gweithleoedd ac yn eu cymdeithas, er mwyn sicrhau eu hawliau.
O dan y system gyfredol yng Nghymru, mae gweithwyr yn wynebu contractau byrdymor, cyflogau isel, oriau hir, a diffyg hawl i streicio mewn diwylliant gwaith sydd yn gynyddol annemocrataidd ac yn heriol. Tra bod cyflogau’r perchnogion yn cynyddu’n ddiddiwedd mae cyflog cyfartalog bobl yng Nghymru wedi aros yr un fath ers dros ddegawd. Mae’r elw rydych chi’n cynhyrchu yn cael ei ddwyn yn y cyfoethogion, tra bod chi’n parhau i fyw ar yr un cyflog ag oedd gennych yn 2005.
Credwn nad oes gan ein prif bleidiau gwleidyddol unrhyw ddiddordeb mewn datrys y problemau hyn, gan eu bod yn elwa o’r sefyllfa. Credwn mai’r unig ateb yw mudiadau llawr gwlad o bobl dosbarth gweithiol.
Rydyn ni eisiau democratiaeth yn y gweithle, lle dylai pawb yn cael dweud eu dweud ynglŷn â sut mae’r busnes / sefydliad yn cael ei redeg, a ble mae’r elw’n mynd. Gyda chymaint o’n diwrnod / wythnos / blwyddyn wedi’i dreulio yn y gwaith, ni fydd gennym ddemocratiaeth go iawn yng Nghymru dra nad oed democratiaeth yn y gweithle.
Rydyn ni hefyd eisiau gwir ddemocratiaeth, y tu allan i’r system Seneddol Ryddfrydol ddiog. Rydyn ni eisiau democratiaeth go iawn, o’r lefel Genedlaethol i lawr i gynghorau lleol. Mae pobl Cymru yn gwybod beth sydd orau iddynt, ac rydym yn werth mwy nag un neu ddau o bleidleisiau pob pedwar blynedd.
4 – Rydyn ni eisiau system addysg hygyrch, onest, ac yn rhad ac am ddim i bawb.
Nid ydym yn sôn am Brifysgol yn unig, ond am Brentisiaethau, a Dysgu Oedolion hefyd. Mae mynediad i addysg yn parhau i fod yn un o’r rhanwyr mwyaf yn ansawdd bywyd ein plant ac yn ein dyfodol. mae’r sector addysg yn y DU – gan gynnwys Cymru – wedi’i ddylunio gan, ac yn cael ei redeg er budd y dosbarthiadau rheoli. Faint o’n helît gwleidyddol sydd wedi mynychu’r un ysgolion a’r un ddwy brifysgol? Credwn y dylai’r system addysg gweithio er budd bobl, nid y sefydliad.
Tra bod y Sector Addysg yng Nghymru yn cael ei redeg am elw, yr unig opsiynau i bobl ifanc Cymru yw fywyd o ddyled fyfyrwyr parhaol – dyled sydd yn codi bob blwyddyn heb unrhyw sicrwydd o gael swydd ar ôl graddio – i geisio am interniaeth (yn aml yn ddi-dâl, yn gweithio’n galed i gwmni sy’n werth miliynau o bunnoedd heb unrhyw o gael swydd), neu i geisio am un o’r Prentisiaethau sy’n dirywio’n gyflym yng Nghymru.
Ni ddylai pethau bod fel hyn. Rydyn ni eisiau’r cyfleoedd gorau i holl bobl Cymru, yn enwedig i’n plant, ac nid ydyn ni’n credu y dylai ein plant ddioddef am nad oedden nhw’n ddigon breintiedig i gael eu geni i fywyd o gyfoeth.
Rydyn ni eisiau addysg am ddim i bawb yng Nghymru – o’r crud, i’r bedd. Hyfforddiant am ddim, interniaethau taledig, cyrsiau hygyrch.
5 – Rydyn ni eisiau rhoi diwedd ar dlodi plant.
Mae gan Gymru’r lefel uchaf o dlodi plant yn y DU. Mae hyn yn fethiant gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth San Steffan. Mae gan y ddau’r grym i ddod â hyn i ben ar unrhyw bryd, ond maent yn dewis peidio oherwydd ‘costau’. Credwn fod lles ein plant o’r pwys mwyaf, ac na ddylai unrhyw blentyn ddioddef o ganlyniad i amgylchiadau economaidd y tu hwnt i’w reolaeth.
Rydym yn gwybod nad oes angen i bethau fod fel hyn. Nid oes unrhyw reswm y dylai unrhyw blentyn fynd yn llwglyd, yn ddigartref, neu’n bryderus am ei ddyfodol oherwydd iddi gael ei eni i’r cefndir ‘anghywir’. Mae bywyd pob plentyn o bwys, a chredwn fod amddiffyn ein plant yn sylfaenol i ddyfodol Cymru, ac i’r byd yn gyffredinol.
Rydym yn mynnu gofal plant am ddim a ddarperir gan y Llywodraeth – fel sydd yn bodoli mewn cymaint o wledydd ledled y byd – fel dechreuad i gywiro’r sefyllfa bresennol. Rydym yn mynnu ciniawau ysgol am ddim i bob plentyn. Rydym yn mynnu bod canolfannau ieuenctid a chlybiau cymdeithasol yn cael eu hariannu, ar ôl cael eu dirywio gan ddegawd o lymder economaidd, i greu grwpiau cymdeithasol i blant, a llochesau rhag teuluoedd cythryblus. Rydym yn mynnu diwedd i gyflwyno’r system ddosbarth i blant cyn hyd yn oed ddysgu hanfodion mathemateg iddynt trwy ddileu’r system ysgolion preifat, gan ddod â’r rhaniad o blant yn ôl y dosbarth i ben.
6 – Rydym am i ardaloedd difreintiedig yng Nghymru gael eu hail-fywiogi, yn hytrach na’u hanwybyddu a’u trin fel gwregysau cymudwyr.
Am gyfnod rhy hir, mae ein cymunedau difreintiedig yng Nghymru wedi cael eu trin fel ffynhonnell o dai rhad a thir rhad i ddatblygwyr. Mae ein pentrefi, ein trefi a’n dinasoedd yn dioddef ymadawiad enfawr – gyda swyddi’n adleoli i’r dinasoedd mawr, gan adael ein cymunedau heb waith a heb weithwyr.
Rydyn ni eisiau adfywio ac adfer ein cymunedau, er budd y bobl sydd yn byw yma. Nid yw ein cartrefi a’n strydoedd yn bodoli er mwyn i bobl dringo’r ysgol eiddo, ac nid yw ein rhanbarthau yno er budd cymudwyr yn unig. Rydyn ni eisiau buddsoddiad go iawn yn yr ardaloedd hyn, a swyddi cynaliadwy yn ein cymunedau – nid i gael ein trin fel gwregys cymudwyr.
7 – Rydyn ni moen gweld diwedd i digartrefedd.
Mae digartrefedd yn gancr, ac mae’n rhaid i ni ei ymladd. Mae yna ddigon o dai yng Nghymru, ac mae yna ddigon o arian. Yn rhy aml yng Nghymru, mae Landlordiaid yn prynu tai yn rhad, ac yna’n codi rhenti ar bobl sydd mewn angen dybryd.
Nid ydym yn credu y dylid gwrthod lle diogel i bobl fyw ynddo oherwydd na allant ddarparu swm digonol o arian i dalu rhent i gyfoethogion. Ni ddylai neb ofni colli eu swyddi a cholli eu cartref. Ni ddylai neb cael ei gyrru i hunanladdiad oherwydd amgylchiadau economaidd sydd tu hwnt i’w rheolaeth, oherwydd bod y farchnad dai yn poeni mwy am arian nag y mae am fywydau pobl.
Credwn, os na fydd landlordiaid Cymru yn rhoi tai gweddus a rhad i’n cymunedau, yna dylid troi’r tai a’r tir yn gydweithfeydd cyhoeddus fel y gall ein cymunedau adeiladu tai gweddus i bobl.
8 – Rydyn ni eisiau Cymru sy’n sefyll mewn undod gyda holl bobloedd orthrymedig y byd.
Pan aeth cannoedd o dynion a menywod i fentro eu bywydau wrth ymladd ffasgwyr Franco yn Sbaen, gwnaethant hynny oherwydd gred ddiffuant mewn rhyngwladoliaeth Sosialaidd ac mewn undod dynoliaeth.
Ni allwn – ac ni fyddwn byth – yn anghofio’r ethos hynny. Rydyn ni eisiau Cymru sy’n sefyll mewn undod â’r rhai gorthrymedig ledled y byd yn eu brwydrau yn erbyn Cyfalafiaeth, gwahaniaethu a cham-fanteisio.
Ond mae’r frwydr hefyd yn dechrau gartref. Ni allwn ymladd am hyn i gyd heb ddechrau gartref.
Dosbarthiaeth, Hiliaeth, Rhywiaeth, Trawsffobia, erledigaeth grefyddol – mae’r rhain i gyd yn gancrau y mae angen i ni ei ddinistrio er mwyn i Genedl Gymru ffynnu a llwyddo.
9 – Rydyn ni eisiau diddymu’r heddlu, carcharoedd, ac yr systemau goruchafwr gwyn y mae nhw’n ei ategu
Gan cymryd y dealltwriaeth – sydd yn cael ei cefnogi gan wyddonwyr – bod mwyafrif o drosedd yn cael eu cymellu gan dlodi, a bod trosedd dim yn cael eu atal o gwbwl gan yr heddlu neu carcharoedd, dydyn ni ddim yn gweld rheswm am ei bodoliad, ac yn cymryd y pwyntiau cynt fel ateb go iawn i drosedd.
Nid yw’r heddlu efo’r gallu i ddadwneud troseddau, ac mewn gwirionedd mae’n anaml bod yr heddlu yn ei datrys. Nid yw carcharoedd yn adsefydlu troseddwr, ac yn gwir, mae llawer yn mynd ymlaen i ail-droseddu.
Beth mae’r heddlu a carcharoedd yn ei wneud yw ymosod a lladd pobl o liw draws y wlad yn anghyfartal, gan enill elw o hyd tra bod cyfradd carcharoedd preifat yn cynyddu yn DU.
Does dim cyfiawnder gwir yng Nghymru. Mae pobl y dosbarth gweithiol yn fwyaf tebygol i dderbyn dedfryd llym am droseddau bach, tra bod y fwyaf cyfoethog yn symud heibio heb son.
Pryd mae angen i chi bwydo eich teulu ifanc, pryd mae eich cymuned yn ddiffaith ac yn ddarfodus, pryd does dim swyddi am filltiroedd, pryd mae eich budd-dal yn lleihau gyda’ch gwasanaethau cymdeithasol, oes yna sioc bod rhai yn troi tuag at trosedd? Mae yr afiechydon mae cyfalafiaeth yn ei gosod arnom ni – yn enwedig ar gymunedau o liw – angen cael ei datrys os oes dymuniad gwir i atal trosedd.
Mae dinistrio carcharoedd yn golygu dinistrio goruchafwr gwyn, patriarchaeth, cis-normadaeth – yr holl systemau gormesol, ac yr heddlu sydd yn gorfodi nhw.
10 – Rydyn ni am i bobl dosbarth gweithiol o bob cred, lliw a chenedl uno, er budd pawb.
Ni fydd newid er gwell nes bod y dosbarth gweithiol yn cyfuno ein grym. Nid yw’r frwydr go iawn rhwng ‘pobl Gymreig’ a ’thramorwyr’, na rhwng Llafur a’r Torïaid, ond rhwng y Dosbarthiadau Uchaf – sydd wedi gormesu gweithwyr yng Nghymru ers canrifoedd, gan adeiladodd eu cyfoeth ar ein cefnau crwydrol – a ninnau.
Gallwn ennill byd newydd. Mae hyn yn ddigon bosib, a gellir cyflawni hyn yn ystod ein hoes.
MAE ANGEN I NI ADDYSGU EIN HUNAIN
MAE ANGEN I NI DREFNU EIN HUNAIN
RHAID RALÏO’R BOBL
DROS Y WERINIAETH SOSIALAIDD GYMREIG